Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
13 Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6594
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 14.00
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Atebodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y 6 chwestiwn cyntaf am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.51 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ailgylchu a'r Adferiad Gwyrdd
Dechreuodd yr eitem am 16.00
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020
Dechreuodd yr eitem am 16.29
Am 16.38 a 17.02 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro am gyfanswm o 13 munud am resymau technegol.
5 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mynd i'r Afael â Pharcio ar y Palmant
Dechreuodd yr eitem am 17.10
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.48 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y cadeirydd dros dro.
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wasanaethau Mamolaeth a Gwelliannau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Dechreuodd yr eitem am 17.54
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020
Dechreuodd yr eitem am 18.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7425 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
9 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
Dechreuodd yr eitem am 18.29
NDM7424 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 19.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7422 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
Gosodwyd y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 10 Chwefror 2020.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) gerbron y Senedd ar 1 Hydref 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
2 |
4 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
10 Y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 19.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7423 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
2 |
4 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 20.05 cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 20.11
Dywedodd y Llywydd ei bod wedi cael ei hysbysu wedyn bod Gareth Bennett AS wedi gwrthwynebu eitem 8. Ymddiheurodd y Llywydd i’r Aelod nad oedd wedi gweld ei wrthwynebiad ar y pryd ond dywedodd bod derbyn y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 bellach yn rhan o’r cofnod cyhoeddus
Daeth y cyfarfod i ben am 20.14
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 14 Hydref 2020